Mae yna nifer o opsiynau sy’n cynnig hyblygrwydd wrth astudio yma. Gallwch astudio nifer o’n graddau ar sail rhan-amser lle byddwch ynmynychu darlithoedd yn ystod y dydd efo’r myfyrwyr llawn-amser. Fel myfyriwr rhan-amser, byddwch yn cael llai o ddarlithoedd bob wythnos ac yn cymryd mwy o amser i gyflawni’r cwrs (hyd at 7 mlynedd). Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn i astudio o bell neu’n gymysg ar rai cyrsiau. Edrychwch ar y tudalennau cwrs unigol am y manylion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudio ar sail rhan-amser, cymysg neu o bell, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau i drafod y posibiliadau.
Cyrsiau Cymraeg i Oedolion
Cyfle i chi ddysgu'r iaith ar eich cyflymder chi.
Ìý