Canolfan Asesu
Sgrinio Anffurfiol
Os ydych yn teimlo y gallai fod gennych wahaniaeth dysgu penodol fel dyslecsia, dyspracsia, neu ADHD, gallwn ddarparu sgrinio rhagarweiniol drwy holiadur e-bost. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, byddwn yn trafod gyda chi'r camau nesaf ar gyfer cefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Mae'r holiadur sgrinio yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬.
Os hoffech gwblhau’r holiadur sgrinio, cliciwch ar y ddolen hon: .
Dylai Staff Prifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ holi am eu hanghenion cymorth drwy'r Uned Dyslecsia Miles ar dyslex-admin@bangor.ac.uk.
ADHD / Anawsterau Dal Sylw
Gyda'n hasesiadau ym Mangor, rydym yn gallu gwneud diagnosis o ADD / ADHD at ddibenion astudio. Caiff y drefn hon ei chydnabod yn eang yn y Deyrnas Unedig a chynghorir myfyrwyr, pe bai'n well ganddynt gael diagnosis meddygol, i at eu meddyg teulu. Mae ein hasesiad llawn yn cwmpasu'r holl wahaniaethau dysgu penodol gan gynnwys ADHD.
Os oes gennych chi ddiddordeb archwilio ymhellach, gofynnwch am sgriniad anffurfiol fel yr amlinellwyd uchod.
Asesiad Awtistiaeth
Nid yw'r brifysgol yn cynnig sgrinio neu asesu awtistiaeth - mae hyn ar gael drwy'r GIG neu'n breifat yn unig.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Asesiad Awtisitaeth.
Asesiad llawn/ffi asesu
Os gwnaed trefniadau arholiad ychwanegol ichi yn y gorffennol oherwydd bod gennych ddyslecsia/dyspracsia ac os hoffech asesiad llawn, mae'r Ganolfan Asesu yn gallu cynnig gwasanaeth diagnostig i fyfyrwyr i weld a oes ganddynt anhawster dysgu penodol megis dyslecsia neu ddyspracsia. Mae'r brifysgol yn talu rhan o'r ffi, ond mae'n rhaid i'r myfyriwr gyfrannu £100 hefyd.
Rydym yn cynnal asesiadau ar gyfer myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ yn unig. Am wybodaeth am wasanaethau i fyfyrwyr allanol, ewch i: .
Mae ein haseswyr cymwysedig yn bodloni canllawiau’r llywodraeth ar gyfer asesu ym maes addysg uwch.
- Mae ein haseswyr i gyd wedi eu cofrestru gyda’r cyrff proffesiynol priodol.
- Mae ein haseswyr i gyd yn gymwysedig i adnabod anawsterau dysgu penodol.
- Mae ein haseswyr i gyd yn gymwysedig i argymell a yw myfyriwr yn gymwys i wneud cais am lwfans myfyriwr anabl.
Gall yr asesiad llawn gymryd tua 3-4 awr i'w gwblhau.