Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch gymaint o help a chefnogaeth â phosib gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd.
Arweinwyr Cyfoed & Thiwtoriaid Personol
²Ñ²¹±ð’rÌýcynllun Arweinwyr CyfoedÌýa’r cynllunÌýTiwtoriaid PersonolÌýyn golygu y bydd gennych bob amser fyfyriwr arall neu aelod o’r staff academaidd i droi atynt. Myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn sydd wedi eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd ymgartrefu'n y Brfysgol ydy'r Arweinwyr Cyfoed. Mae gan pob myfyriwr hefyd Diwtor Personol, sy'n aelod o staff o fewn yr ysgol academaidd.
Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr
²Ñ²¹±ð’rÌýGanolfan Gweinyddu a Gwasanaethau MyfyrwyrÌýyn darparu gwasanaeth cefnogi proffesiynol i fyfyrwyr. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys cyngor ariannol, cefnogaeth lles, sgiliau astudio, uned dyslecsia a chwnsela.
Cymorth Anabledd
Mae hefydÌýTîm AnableddÌýyma i gynnig cyngor ac arweiniad am nifer o faterion cysylltiedig ag anabledd.
Sgiliau Astudio
²Ñ²¹±ðÌýÌýTîm Cefnogi Dysgu ac AddysguÌýyn cynnig apwyntiadau unigol, gweithdai ac adnoddau dysgu i helpu datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol. Mae'r Ganolfan yn cynnig help gydag ysgrifennu academaidd, mathemateg ac ystadegau, cyflwyniadau, darllen ac ymchwil.
Ewch i wefanÌýGweinyddu a Gwasanaethau MyfyrwyrÌýi weld yr ystod eang o gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig.
Ìý