Mae ymuno â chlybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli yn ffordd wych i chi roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl. Mae gan Undeb ein Myfyrwyr dros 150 o rai gwahanol, a gallwch ymuno â phob un am ddim.
Yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch weld beth sydd ar gael yn Ffair Serendipity. Bydd ein holl glybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli o dan yr un to felly mae'n gyfle gwych i chi ddod i wybod mwy ac ymuno â'r rhai sy'n eich diddori.Â
Mae rhywbeth i bawb
Clybiau Chwaraeon
Pa bynnag chwaraeon rydych yn ei fwynhau, mae clwb ar ei gyfer ym Mangor. O chwaraeon traddodiadol fel rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed a thenis i weithgareddau awyr agored fel syrffio, chwaraeon eira, canŵio a hwylfyrddio. Gallwch hefyd roi cynnig ar rywbeth gwahanol fel hoci tanddwr a quidditch.
Mae llawer o'n clybiau chwaraeon yn cystadlu mewn digwyddiadau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gyda gemau rheolaidd yn erbyn prifysgolion eraill. Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yw Varsity, penwythnos o gystadlu rhwng Prifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬ a Phrifysgol Aberystwyth.
Varsity
Cymdeithasau
Mae cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn dod â phobl o’r un anian ynghyd. Mae yna gymdeithasau sy'n cysylltiedig â chyrsiau, fel Langsoc, Zoosoc a Psych Soc; cymdeithasau sy'n dathlu diwylliannau a chymdeithasau i fyfyrwyr sydd â'r un diddordebau, megis drama, cerddoriaeth, ffilm, ffotograffiaeth.
Mae ein rhestr o gymdeithasau yn hynod o amrywiol, ond gallwch hefyd ddechrau cymdeithas newydd os dymunwch.
Gwirfoddoli
Yn ystod eich amser rhydd, gallwch ymuno â phrosiectau gwirfoddoli trwy gynllun Gwirfoddoli Myfyrwyr Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o roi yn ôl i'r gymuned, wrth ennill sgiliau gwerthfawr.