²Ñ²â´Ú²â°ù·É²â°ùÌýâÌý±Ê³ó°ù´Ç´Ú¾±²¹»åÌý³Ò´Ç´Ú²¹±ôÌý
Ym Mhrifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a rhoi cefnogaeth iddynt. Rydym yn cynnig gwasanaeth lles cynhwysfawr i fyfyrwyr, felly fel myfyriwr sydd wedi gadael gofal i ddod i Addysg Uwch, neu fel rhywun sy’n rhoi cyngor i fyfyriwr âÌýphrofiadÌýgofal, gallwch fod yn sicr y cewch y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol ym Mangor. Mae’r gefnogaeth hon i’w chael o’r cam cyntaf, tra byddwch yn dal i geisio penderfynu lle neu beth i’w astudio, ac mae’n parhau ar gael i chi drwy’r broses gwneud cais am brifysgol ac ar ôl i chi ddechrau ar eich cwrs yma.
Mae aelod o staff yng Nghanolfan Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol wedi ei neilltuo fel person cyswllt ar gyfer rhai sydd wedi gadael gofal, ac at y person hwnnw y dylech chi droi am gymorth a chyngor ar unrhyw adeg o’ch taith at Addysg Uwch a thrwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol.
Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal
Ym Mhrifysgol Å·ÃÀÐÔ°®Æ¬, gallwn ddarparu’r canlynol:
- ArweiniadÌýarÌýrag-fynediadÌýganÌýeinÌýGwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd,ÌýcymorthÌýiÌýlenwiÌýeichÌýffurflenÌýCais amÌýGyllidÌýMyfyrwyrÌýaÌýchymorthÌýaÌýchefnogaethÌýynÌýystodÌýprosesÌýgwneudÌýcaisÌýaÌýderbyniadau’rÌýbrifysgol.Ìý
- CymorthÌýganÌýarweinwyrÌýcyfnodÌýiÌýbobÌýmyfyriwrÌýi’wÌýhelpuÌýiÌýymgartrefuÌýynÌýystodÌýyrÌýWythnosÌýGroesoÌýacÌýwythnosauÌýcyntafÌýyÌýtymor.Ìý
- CymorthÌýariannolÌýwediÌýeiÌýglustnodiÌýarÌýgyferÌýrhaiÌýsyddÌýwediÌýâÌýphrofiadÌýgofal,ÌýdrwyÌýgyfrwngÌýbwrsariaethauÌýaÌýChronfaÌýCalediÌýyÌýBrifysgol. MaeÌýhynÌýynÌýgolyguÌýyÌýbyddwchÌýynÌýcaelÌý£1,000 yÌýflwyddynÌýganÌýBrifysgolÌýÅ·ÃÀÐÔ°®Æ¬ÌýynÌýychwanegolÌýatÌýunrhywÌýfwrsariaethauÌýneuÌýgrantiauÌýeraillÌýyÌýgellwchÌýfodÌýynÌýgymwysÌýi’wÌýderbyn.Ìý
- CanolfanÌýGwasanaethauÌýMyfyrwyrÌýintegredig,Ìýsy’nÌýcynnigÌýmynediadÌýrhwyddÌýatÌýwasanaethauÌýcymorthÌýariannol,Ìýllety,Ìýanableddau, iechydÌýmeddwlÌýaÌýchynghoriÌýmyfyrwyr.Ìý
- CyfarfodyddÌýrheolaiddÌýrhwngÌýyÌýcyswlltÌýpenodolÌýa’rÌýmyfyrwyrÌýsyddÌýâÌýphrofiadÌýgofalÌýiÌýganfodÌýeuÌýhanghenionÌýcymorth,ÌýgydaÌýchyswlltÌýrhwngÌýadrannau’rÌýBrifysgolÌýacÌýasiantaethauÌýallanolÌýfelÌýbo’nÌýbriodolÌý(aÌýgydaÌýchaniatâdÌýpendant yÌýmyfyriwr).Ìý
- SicrwyddÌýoÌýletyÌýarÌýgyferÌýmyfyrwyrÌýynÌýeuÌýblwyddynÌýgyntafÌýarÌýgwrsÌýisraddedigÌýaÌýchynllunioÌýaÌýthrefnuÌýlletyÌýiÌýchiÌýarÌýgyferÌýamserÌýtymorÌýacÌýamserÌýgwyliau.Ìý
- CyfrinacheddÌýllwyrÌýiÌýfyfyrwyrÌýsyddÌýoÌýgefndirÌýgofalÌýoÌýsafbwyntÌýdarparuÌýgwasanaethÌýaÌýthrefniadauÌýpenodol.
FelÌýmyfyriwrÌýsyddÌýâÌýphrofiadÌýgofal,ÌýneuÌýrywunÌýsy’nÌýrhoiÌýcyngorÌýiddynt,ÌýeichÌýcyswllt cyntaf yw Huw Jones neu Wendy Williams. Gall y ddau roiÌýmwyÌýoÌýfanylionÌýiÌýchiÌýarÌýbobÌýagweddÌýoÌýddarpariaethÌýcymorthÌýyÌýBrifysgolÌýarÌýgyferÌýmyfyrwyrÌýâÌýphrofiadÌýgofalÌýcynÌýiddyntÌýgaelÌýeiÌýderbynÌýaÌýthraÌýbyddantÌýynÌýastudioÌýyma.
CysylltwchÌýâ Huw neu WendyÌýarÌý01248 383717 neu 3637 neu drwy e-bost: studentsupport@bangor.ac.uk.
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Marcel Clusa | Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |